Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4
Dyddiad: Dydd Mercher, 26 Hydref 2022
Amser:
09.30 -
12.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12990
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Justin Lewis, Prifysgol Caerdydd Tom Ware, Prifysgol De Cymru Dafydd Rhys, Cyngor Celfyddydau Cymru Gillian Mitchell, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Clara Cullen, Music Venues Trust |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Andrea Storer (Ysgrifenyddiaeth) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon - y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
2 Yr heriau sy'n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Yr Athro Justin Lewis, Athro mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol, Prifysgol Caerydd
· Tom Ware, Deon Cyswllt, Trawsnewid Cyfryngau a Phartneriaethau, Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru
3 Yr heriau sy'n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau celfyddydau a diwylliant
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dafydd Rhys, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru
· Gillian Mitchell, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
· Clara Cullen, Rheolwr Cefnogi Lleoliad, Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth
3.2 - (Hefin) Cytunodd Dafydd Rhys i rannu enghreifftiau o astudiaethau achos o brosiectau sy'n gweithio gyda phobl awtistig
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, ynghylch briffio Cymru Greadigol
4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ddrprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, ynghylch briffio Cymru Greadigol.
4.2 Llythyr at y Pwyllgor Busnes ynghylch yr amserlen ar gyfer Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Protocol Gogledd Iwerddon
4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Pwyllgor Busnes ynghylch yr amserlen ar gyfer Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Protocol Gogledd Iwerddon.
4.3 Llythyr gan y Gynghrair Cefn Gwlad ynghylch ymchwiliad brys i werthu a phrynu tir amaethyddol – a werthir yng Nghymru ar gyfer plannu coed – i gwmnïau.
4.3a Yn dilyn trafodaeth ar y llythyr gan y Gynghrair Cefn Gwlad, cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn nodi'r llythyr ac yn ymchwilio i ba gamau y mae Pwyllgorau eraill yn eu cymryd.
4.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu
4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Ôl-drafodaeth breifat
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod eitemau 2 a 3.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon: trafod yr adroddiad drafft
8 Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi: trafod yr ymateb drafft
9 Adroddiad ar gostau cynyddol: trafod yr adroddiad drafft
9.1 Oherwydd diffyg amser, cytunwyd y dylid gohirio’r drafodaeth ar yr adroddiad, a threfnu cyfarfod ychwanegol (preifat/rhithwir) yr wythnos gyntaf ar ôl y toriad er mwyn i’r pwyllgor gael y drafodaeth hon.
10 Trafod yr ohebiaeth ddrafft
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth drafft.
11 Adroddiad Monitro Materion Rhyngwladol: i'w nodi
Nododd y Pwyllgor yr Adroddiad Monitro Materion Rhyngwladol